Martin and Strain Cartref
 

Pwy ydym ni?
Martin & Strain yw’r cwmni a olynodd Evan R Davies & Davies, practis cyfreithiol a sefydlwyd ar droad y ganrif yn ein swyddfa bresennol ym Mhwllheli. Bu sawl newid a datblygiad yn ystod y blynyddoedd yn cynnwys sicrhau Detholfreintiau Cymorth Cyfreithiol, Hawliau Llys Uwch a buddsoddi mewn systemau TG.

PARTNERIAID

 


Bryn Martin
Cymhwysodd Bryn Martin yn gyfreithiwr ym 1981. Bu’n gweithio i ddechrau yn Adran Gyfreithiol Awdurdod Dðr Cymru cyn sefydlu practis ym Mhwllheli. Mae’n briod ac yn byw ym Mhwllheli.

Mae Bryn Martin yn arbenigo mewn Profiant a Thrawsgludo ac y mae’n ymdrin â phob math o faterion yn ymwneud â thir a gweinyddu ystadau.
 
Michael Strain
Cymhwysodd Michael Strain ym 1992, a derbyniodd gymwysterau Hawliau Uwch yn 2003, sy’n ei alluogi i ymddangos yn y Llysoedd Uwch.

Mae’n arbenigo mewn cyfreithiad trosedd ac anafiadau corfforol ac y mae wedi delio â holl rychwant achosion troseddol o fân achosion moduro i ymchwiliadau i llofruddiaethau o bwys.

Mae’n delio yn ogystal ag achosion anafiadau corfforol yn cynnwys anafiadau whiplash safonol ac anafiadau mawr catastroffig sy’n werth mwy na £1,000,000.00.

Mae’n briod ac yn byw yn ardal Pwllheli.
 
  CYFREITHWYR CYNORTHWYOL
 
  Catrin Gwyn
Graddiodd Catrin Gwyn gydag anrhydedd mewn Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, cyn symud ymlaen i hyfforddi fel Cyfreithwraig. Mae Catrin yn gyfrifol am wneud amrywiaeth helaeth o waith cyfreithiol, gan gynnwys gwaith trawsgludo, ewyllysiau a phrofiant. Mae Catrin yn byw ym Mhen-y-Groes.
 
  PARAGYFREITHWYR
 
  Eileen Roberts
Cynorthwy-ydd yn yr Adran Brofiant yw Eileen Roberts sy’n delio â gweinyddu ystadau. Mae gan Miss Roberts flynyddoedd o brofiad gydag Evan R Davies & Davies a chyda’r partneriaid presennol, ac y mae’n arbenigo mewn Profiant.
 
  Gerallt Parry
Mae Gerallt Parry yn raddedig yn y Gyfraith ac yn gynrychiolydd awdurdodedig sy’n arbenigo mewn gwaith troseddol. Bydd yn mynychu Llys y Goron yn rheolaidd ac ef sy’n bennaf gyfrifol am baratoi achosion ar gyfer Llys y Goron.
 
  STAFF CYNORTHWYOL
 
  Liz Mangham
Liz Mangham yw Ariannydd Cyfreithiol y swyddfa a hi sy’n gyfrifol am bob ymholiad ariannol.
 
 

Sian Griffiths
Sian Griffiths yw’r Ysgrifenyddes Drawsgludo ac y mae’n delio â’r Adran Drawsgludo.

 
 

Debbie Boulton
Mae Debbie Boulton yn delio â Chyfraith Teulu a Chyfreithiad Anafiadau Corfforol.

 
 

Iola Roberts
Mae Iola Roberts yn delio â Chyfreithiad Troseddol.

 
 

Lona Williams
Lona Williams - Derbynnydd

 
   
Martin & Nierada Tudalen Cartref

 


Martin & Strain, Solicitors, Bank Place, 33 High Street, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RT
Tel: (01758) 612 042/612 743
Ffacs: (01758) 613 815

Dyluniwyd gan Delwedd