Newyddion
Achos A499 Aberdesach I Llanaelhaearn
Yn Llys Gaernarfon ar yr 8fed o Fehefin 2010 fe ddaeth achos gerbron Barnwr Rhanbarth Richard Williams ble gadarnhawyd fod y cyfyngder cyflymdra ar y Ffordd A499 rhwng Aberdesach a Llanaelhaearn yn anghyfreithlon ac nad oedd modd i erlyn gyrrwyr am drafaelio ar hyd y ffordd a oedd yn gwneud rhwng 30 a 60 m.y.a.
Mae’n briodol fellu i unrhyw un sydd wedi cael eu erlyn neu wedi derbyn Tocyn Cosb Penodedig i wneud cais am eu pwyntiau a’r arian yn ôl i’r Swyddfa Cosb Penodedig ym Mhrestatyn:
Swyddfa Docynnau Ganolog,
Heddlu Gogledd Cymru,
PO Box 53,
Prestatyn
LL19 7WW
Ffôn: 01745 539 393
Y cefndir:
Ym mis Mai 2009 fe ddaeth nifer o gleiantau i gysylltiad gyda swyddfa Martin & Strain i gwyno ynghylch â’r ffordd eu bod yn cael eu herlyn am or-yrru ar yr A499 yn sgil penwythnos Gwyl y Banc Mis Mai 2009. Roedd arwyddion yn ddiffygiol ar y ffordd ag i bob pwrpas roedd y gwelliannau fel eu bod wedi eu cwblhau a bod y ffordd newydd yn gwbl ddiogel heb gyfyngiadau cyflymder. Mi oedd yr Heddlu wedi lleoli fan a car plismon ochr Gyrn Goch i ben lôn Trefor ac mi oedd nifer fawr o yrrwyr wedi eu dal a’u cosbi.
Wedi grym ymchwil yn Archifdy Gwynedd ag ystyried y gyfraith sydd yn ofynnol i Cyngor Sir Gwynedd orfodi cyfyngder cyflymdra, fe ddaeth yn amlwg fod y broses anghywir wedi ei osod ac nad oedd y Cyngor wedi rhoid ddigon o gyfnod o rybudd i’r awdurdodau bod y cyfyngder yn cael ei osod. Yn sgil hyn, mae y darn newydd o dir sydd i’r gogledd o bentref Clynnogfawr a Gyrn Goch a throiad Gyrn Goch a throiad pentref Trefor yn ffyrdd newydd ac nid oes cyfyngder cyflymder 30 m.y.a. yn berthyn i’r ffordd hwn.
Deallwn fod rhai cannoedd o yrrwyr wedi eu cosbi yn anghyfreithlon ac mater iddynt nhw yw wneud cais am y pwyntiau a’r gosb ariannol yn ôl.
Os oes unigolion wedi dioddef ymhellach, sef wedi colli trwydded neu wedi cael eu cosbi gan eu Cwmni Yswiriant, yna mae modd iddynt hwythau wneud cais am yr arian yna yn ôl.
“Alison Dunning”
Sadly Alison passed away peacefully on 10th June 2009 at the age of 41 after a lengthy and brave battle with Cancer.
She was a very friendly, warm hearted person who will be dearly missed.
Elusen y Flwyddyn
Mae Martin & Strain wedi penderfynu penodi achos penodol i’w hyrwyddo mewn achos da dros y flwyddyn.
Elenni, mi fyddem, fel Cwmni, yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru sydd yn cyfrannu gwasanaeth bwysig iawn i Ben Llŷn ac ardaloedd cefn gwlad Cymru.
Y gobaith yw y bydd cyfraniadau gyson yn gael eu wneud dros y flwyddyn o sawl ffynhonnell.
DATGANIAD I’R WASG [11/02/09]
Mae Adran Cyflogaeth ac Anafiadau Personol wedi llwyddo yn ddiweddar yn yr achosion canlynol:
- Mae merch 23 oed wedi dioddef damwain ddifrifol ac wedi ennill taliad o £225.000 i gynnwys swm am golledion cyflogaeth ag am yr anafiadau. Cynrychiolwyd y cleiant gan Stephen Grime QC a Barrie Searle fel Bar-Gyfreithiwr o dan gyfarwyddid Martin & Strain Cyfreithwyr.
- Mae gŵr 62 mlwydd oed wedi derbyn swm o £55,000 fel iawndal yn sgil damwain yn y gwaith. Fe gynrychiolwyd gan Martin & Strain a Mr David Calvert yn Bar-Gyfreithiwr.
- Cyflogaeth – fe dderbyniodd cleiant i Martin & Strain swm o £10,000 am gael ei ddi-swyddo yn anheg yn sgil gweithio gyda Cwmni am 10 mlynedd a’i ddi-swyddo yn ddi-rybudd
DATGANIAD I’R WASG [19/10/07]
YN DILYN CAEL EI DYFARNU’N DDIEUOG O LOFRUDDIAETH WILLIAM McAULEY AR Y 10FED O EBRILL 2007, DYWEDODD WENDY ELLIS:
Ar y 10fed o Ebrill 2007 fe ddaeth pen llanw i flynyddoedd o ddioddef o drais yn y cartref. Fe ’roeddwn mewn sefyllfa lle nad oedd gennyf ddim dewis dim ond amddiffyn fy hun rhag ymosodiad ffiaidd. Serch hynny, mi wnes rhywbeth y gwnaf ddifaru amdano fo am weddill fy oes; rhywbeth y buaswn yn erfyn ar bawb sydd yn dioddef o’r fath drais wneud popeth i’w osgoi. Peidiwch a dioddef yn ddistaw, mynnwch gymorth a chefnogaeth cyn i’r trais fynd yn eithafol a’i canlyniadau fynd yn drychineb.
’Rwyf wedi bod yn y Llys am y tro cyntaf yn fy mywyd am chwech wythnos. Gaf ddweud, fel rhywun sydd wedi bod drwy’r broses, mor falch yr oeddwn i o gael rhoid fy nhystiolaeth, mor annodd ac emosiynol ag yr oedd, yn uniongyrchol yn yr iaith y magwyd fi ynddi a’r rheithgor hefyd yn clywed y dystiolaeth yna yn uniongyrchol ac yn deallt cyd-destyn ystyr ac idiom yr iaith gwreiddiol honno. Credaf fod tegwch y rheithgorau Cymraeg eu iaith i glywed achosion sydd yn bennaf cael eu gynnal trwy’r iaith honno yn anorfod.
Gaf ddiolch i
Ynadon Llangefni am fod yn barod i lynu at yr egwyddorion sylfaenol a caniatau fy mherchniaeth
Staff Gwasanaeth Brawf Gogledd Cymru sydd yn rhedeg Ty Newydd ym Mangor am eu goddefgarwch a chefnogaeth trwy’r amser
Tim Cyfreithiol o dan arweiniad Elwen Evans QC
Ond yn fwy na neb, i fy nheulu ag i’m cymdogion yn ardal Blaenau sydd wedi bod yn gefn arhuthrol i mi drwy’r misoedd ynfydys hwn ac yn wir nid wyf yn meddwl y buasent wedi gallu parhau heb y cyfeillgarwch a’r ewyllys da a ddaeth yn ddigyfaddawd.
Yn olaf ’rwyf yn awyddys i fynd adref at fy nheulu a’m mhlant ac yn gofyn am y preifatrwydd a’r cyfle i fod gyda fy nheulu fel y gallaf adeiladu’r aelwyd ddiogel di-drais y bum yn chwilio amdani cyhyd.
DATGANIAD I’R WASG [05/05/06]
Gerbron Llŷs y Goron Caernarfon ar y 5ed o Fai 2006, fe ddyfarnwyd David Merfyn Griffith yn ddi euog o ddynladdiad wedi treial saith diwrnod ger bron Y Barnwr Walker KT.
Mi ddywedodd Michael Strain fod clod i’r tim oedd yn amddiffyn David Merfyn Griffith i gyd o dan arweiniad Michael Chambers QC, John Wyn Williams a’r unigolion yn y swyddfa, Gerallt Parry, Jeff Guile a Iola Roberts, a fu’n ymwneud a’r achos.
‘Roedd David Merfyn Griffith yn mynnu ei fod o’n ymateb i fygythiad tra’i fod yng Nghlwb Nos Blu ar y 16eg o Hydref 2005 ac fe dderbyniodd y rheithgor ei esboniad am ddigwyddiadau y noson honno.
Yn sicr ’roedd yr amgylchiadau yn drychineb personol i deulu James Cook ac i deulu David Merfyn Griffith ac mae’n sicr na fydd yr un o’r ddau deulu yr un fath eto.
Mae’r profiad o fod yn ddifynnydd mewn cyhuddiad mor ddifrifol a hon yn hynod ddyrys a dwys. ’Roedd Mr Griffith yn falch o’r dyfarniad ond eto yn teimlo yn drist drost teulu Mr Cook er mor annodd yr amgylchiadau.
Yr oedd ymchwiliad Yr Heddlu wedi bod yn hynod gynhwysfawr, gan gynnwys drost 500 o dystion a llawer iawn o ddogfennau, fideos a deunydd arall yn cael ei gynhyrchu fel rhan o’r ymchwiliad. Mae hyn yn ei dro yn gwneud gwaith sylweddol i’r amddiffyniad a chreu cryn bwysau yn ystod y misoedd cyn y treial ac mae clod i bawb sydd wedi gweithio ar yr achos dros y cyfnod annodd hwn.
DATGANIAD I’R WASG [21/11/05]
Llongyfarchiadau i Bethan Mair o glwb Llangybi am ennill cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifainc Eryri 2005.Mae Martin A Strain wedi noddi'r gadair fel rhan o'u cynllun noddi digwyddiadau lleol.Mae Eisteddfod Mynytho, Clwb chwaraeon Pwllheli a Chlwb Peldroed Pwllheli hefyd wedi derbyn nawdd.
DATGANIAD I’R WASG [25/10/05]
Arolwg Gan Gomissiwn Gwasanaethau Cyfreithiol
Mewn arolwg diweddar derbyniodd adran gyfraith troseddol Martin a Strain canlyniad penigamp yn eu gosod yn categori 1 o 'r tri catagori yn ol ansawdd a safon y Comissiwn.Golygai hyn fod y ffeils a arolygwyd yn cyraedd sgor dros 90% yn erbyn y safonnau gosodedig.
DATGANIAD I’R WASG [07/10/05]
Mewn achos diweddar yn Llys Ynadon Pwllheli fe brofiwyd pwysigrwydd o wneud ymholiadau unigol ynghylch ag unrhyw dystiolaeth wyddonol sydd gan yr Heddlu. Fe arestwyd gyrrwr lleol o ardal Pwllheli am yrru dan ddylanwad alcohol. Fe fethodd y prawf ar ochr y ffordd ac yna fe cludwyd i’r ddalfa yng Nghaernarfon ble chwthodd 49 ar y peiriant yn y ddalfa. Oherwydd fod y darlleniad o dan 50 ‘roedd rhaid i’r Heddlu rhoid dewis o rhoid prawf gwaed neu prawf dwr ac fe benderfynnodd y diffynydd rhoid prawf gwaed. Fe ranwyd y prawf, hanner iddo fo a hanner i’r Heddlu i’w gludo i’w arbennigwyr nhw ac ar ôl iddo fo fynd adref, drannoeth fe aeth y gyrrwr a’i sampl i’w brofi gan ei arbennigwr ei hun yn Labordy Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Wedi’r prawf fe brofodd y labordy ym Mangor mai 77mg oedd y darlleniad alcohol yn gwaed y gyrrwr pan mae’r lefel cyfreithiol yn 80mg. Golygai hyn gryn ryddhad i’r gyrrwr yn dangos ei fod o dan y lefel priodol.
Mi ddaeth fel cryn sioc iddo yn ddiweddarach, derbyn gwys gan yr Heddlu yn dweud bod eu arbennigwr nhw wedi cael y darlleniad yn 85mg, sef 5mg drost y rhicyn! Fe cafwyd Trial yn Llys Ynadon Pwllheli yn ddiweddarach ac fe ffendiwyd y gwr yn ddieuog wedi clywed tystiolaeth gan arbennigwyr yr Heddlu o Chorley ac arbennigwr yr amddiffyniad o Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
O ganlyniad o’r achos yma fe brofwyd pa mor bwysig yw I ddiffynyddion brofi unrhyw dystiolaeth wyddonol eu hunain.
DATGANIAD I’R WASG [06/10/05]
Yn Llŷs Ynadon Pwllheli ar y 30ain o Fedi 2005 fe ffendiwyd tri gŵr yn ddieuog o gyhuddiad o dan Adran 5 o Deddf Trefn Gyhoeddus 1986.
‘Roedd y tri gŵr wedi cael Rhybudd Gosb Benodedig gan Heddlu Gogledd Cymru yn sgil digwyddiad yn eu siop yn hwyr yn y nôs ym mis Mawrth 2005. Mynai’r tri gŵr eu bod yn ddieuog o’r cyhuddiad a fe wadwyd y Rhybudd ac yn sgil hynny fe cawsont wŷs i ymddangos yn Llŷs Ynadon Pwllheli ac wedi’r Trial ar y 30ain o Fedi 2005, fe’u cafwyd yn ddieuog.
Gyda’r llywodraeth yn cynnyddu pwerau’r Heddlu i ddefnyddio rhybuddion fel hyn, fe gadarnhaodd y Llŷs fod y tri gŵr yn ddieuog a’u bod wedi ymddwyn o fewn y gyfraith. Dywedodd eu cyfreithiwr, Michael Strain o Martin & Strain, Pwllheli, “Mae peryglon yn sgil y drefn newydd o rhoid Rhybudd Cosb Penodedig gan y fydd pobol yn derbyn eu bod wedi bod yn ymddwyn yn droseddol er mwyn osgoi y drafferth a’r anhawsterau o rhedeg yr achos yn y Llŷs. Mae peryglon clir yn hyn ac y mae’n bwysig fod yr Heddlu yn cymeryd gofal o’i defnydd ac nad yw yn ffordd hawdd o osgoi profi achosion yn erbyn unigolion.”