Profiant, Ystadau ac Ewyllysiau
Beth allwn ni ei wneud i roi trefn ar eich pethau, er mwyn sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn dawel eich meddwl? Dyna sydd flaenaf a phennaf yn ein golwg.
Mae gan Martin & Strain adran arbenigol ar gyfer cleientiaid preifat ers sefydlu’r ffyrm ym 1986. Yn ystod y cyfnod hwn yr ydym wedi cynghori cannoedd o gleientiaid a’u teuluoedd, a’u cynorthwyo i roi trefn ar y materion hynny ynglŷn â’u heiddo, eu hasedau, a’u materion ariannol sy’n aml mor ddyrys.
Yn ogystal y mae’r ffyrm yn darparu amrediad cynhwysfawr o wasanaethau cyfreithiol ar gyfer unigolion a busnesau fel ei gilydd.
Ni waeth beth fo’r broblem, canlyniad ein polisi gweithredol o ofalu am y cleient fu llwyddiant y practis yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn wedi arwain llawer o’n cleientiaid bodlon a ffyddlon i argymell ein gwasanaeth i’w teuluoedd, eu cyfeillion, a’u cydweithwyr mewn busnes.
Ewyllysiau
Os nad ydych wedi gwneud ewyllys efallai na throsglwyddir eich eiddo na’ch asedau eraill i’r rhai hynny y byddech yn dymuno eu gadael iddynt. Gallai lles eich teulu yn y dyfodol ddibynnu ar baratoi ewyllys effeithiol a chyfreithiol-ddilys. Gan ddefnyddio ein gwybodaeth arbenigol ynglŷn ag eiddo, ymddiriedolaethau, a chyfraith treth gallwn eich cynorthwyo i baratoi ar gyfer nifer o bosibliadau gwahanol, a pharatoi’r ewyllys er mwyn sicrhau eich bod yn dawel eich meddwl.
Newid Ewyllysiau
Mae’n ddigon posibl eich bod wedi gwneud ewyllys flynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag, o ganlyniad i newidiadau yn eich amgylchiadau teuluol neu ariannol, hwyrach nad ydyw bellach yn adlewyrchu eich dymuniadau. Ymhellach, gallai newidiadau yn narpariaethau’r dreth etifeddu olygu fod angen adolygu eich ewyllys. Yr ydym yn cynnig trafod y mater yn ddi-gost er mwyn eich cynorthwyo i benderfynu a fyddai unrhyw newidiadau o fudd i chi ai peidio.
Atwrneiaethau Parhaus
A ydych wedi ystyried pwy fyddai’n rheoli eich pethau pe baech ryw ddydd yn feddyliol-analluog i wneud hynny? Yn y gorffennol y mae llawer o’n cleientiaid wedi bod yn ddigon craff a doeth i ofyn i ni, fel eu cyfreithwyr, ddarparu atwrneiaeth barhaus er mwyn lleihau’r problemau pe codai’r cyfryw sefyllfa. Cyngor Ariannol Annibynnol
Mae ein adran gynllunio ariannol yn darparu cyswllt anhepgor ar gyfer cyngor ariannol annibynnol i’n holl gleientiau. Mae cyngor ariannol proffesiynol, cadarn yn hanfodol er mwyn manteisio i’r eithaf ar eich cynilon a’ch buddsoddiadau. Rydym yn credu y dylid rhoi cyngor ariannol gan ymgynghorydd ariannol annibynnol. Mae’r cyfryw ymgynghorydd yn gallu argymell unrhyw un o’r buddsoddiadau ar y farchnad gan nad ydyw ynghlwm wrth un darparwr. Mae’r ymgynghoriad cyntaf yn ddi-gost ac nid oes unrhyw reidrwydd arnoch i fynd dim pellach. Byddwn yn cyflwyno’r ffeithiau a’r dewisiadau sydd ar gael mewn ffordd eglur, ynghyd â manylion y costau ac asesiad o’r risg sy’n gysylltiedig â’r gwahanol opsiynau.
Cynllunio ar gyfer y Dreth Etifeddu
Mae cyfraith treth yn ddyrys ac yn newid yn barhaus. Gallwn eich cynghori ynglŷn â’r ffordd orau i gynllunio ymlaen a rhoi trefn ar eich materion treth yn ystod eich bywyd er mwyn lleihau’r swm a fydd ymhen amser yn daladwy. Cymorth i Gynrychiolwyr Personol
Cynrychiolwyr personol yw’r bobl hynny a enwir mewn ewyllys i weithredu fel ysgutoriaid, neu gâr agosaf rhywun nad ydyw wedi ysgrifennu ewyllys. Mae bod yn gynrychiolydd personol yn gyfrifoldeb garw a geill fod yn anodd o safbwynt cyfreithiol. Mae hyn yn wir ar wahân i’r ffaith y gallai ymdrin â’r materion hyn pan yr ydych wedi colli rhywun agos beri loes personol. Gyda hyn mewn golwg fe wnawn ymgymryd â’r baich o brofi ewyllys yn eich lle a’ch cynorthwyo i sicrhau y gwneir popeth yn unol â dymuniad yr ymadawedig.
Gofal Preswyl Hirdymor
Mae’n ffaith y geill y bydd llawer o bobl yn gorfod symud i gartref nyrsio neu fath arall ar ofal prewyl hirdymor wrth iddynt fynd yn hŷn. Mae’n wir hefyd y gellir defnyddio eich cyfalaf a’ch cartref i dalu am y gofal hwn. Fodd bynnag, nid yw trosglwyddo perchnogaeth i’ch plant yn warant y gwarchodir eich tŷ rhag cael ei ddefnyddio i dalu’r ffioedd. Rydym yn darparu cyngor a chymorth ymarferol ynglŷn â delio â’r cyfryw sefyllfaoedd.
Y Gyfraith a Phobl Hŷn
Fel practis, yr ydym yn darparu cyngor a chymorth ar rychwant llawn o faterion y mae’n rhaid i bobl hŷn a’u teuleuoedd eu hwynebu, yn cynnwys y llys gwarchod, gwarchod asedau, ac ewyllysiau byw.
Gofalu am Gleientiaid
Arbenigo - O ganlyniad i’n profiad o ymdrin â phryderon cleientiaid a’u teuluoedd yr ydym yn gallu cynnig yr atebion ymarferol mwyaf cyfredol i’ch holl gwestiynau a phroblemau. Cadw mewn cysylltiad - Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cadw mewn cysylltiad. Wrth gwrs, y mae hyn yn bwysig nid yn unig tra yr ydym yn ymdrin â mater penodol, ond hefyd yn gyffredinol fel yr â amser rhagddo. Yn ddi-gost, yr ydym yn credu fod eich hysbysu ynghylch materion a allai effeithio arnoch, wrth iddynt ddod i’r amlwg, yn rhan o’n gwasanaeth.
Costau – Gyda golwg ar gostau, yr ydym yn credu na ddylai fod unrhyw gostau annisgwyl neu guddiedig. Gyda hyn mewn golwg yr ydym bob amser yn hysbysu ein cleientiaid ynglŷn â’n dulliau prisio o’r cychwyn cyntaf ac yn eu diweddaru wrth i bethau fynd rhagddynt.
Technoleg– Yn ein swyddfa yr ydym yn defnyddio ystod o dechnoleg fodern sy’n ehangu’n cyson. Diben hyn yw cynyddu ein heffeithlondeb a’n cywirdeb a sicrhau ein bod mor ymatebol â phosibl.
Hygyrchedd – Mae’r fynedfa i’n swyddfa ar y llawr cyntaf. Gallwn drefnu apwyntiadau yn y cartref neu’r ysbyty. Am wybodaeth bellach cliciwch yma. |